Cyngor Sir Penfro
Mae Cabinet Cyngor Sir Penfro wedi cymeradwyo cynllun fyddai’n gweld rhai o wasanaethau’r sir yn cael eu rhoi yn nwylo contractwyr allanol er mwyn arbed arian.
Mae’r cynigion yn cynnwys rhoi gwasanaethau diwylliant a hamdden y Cyngor yn nwylo ymddiriedolaeth elusennol, a rhoi corff allanol yn gyfrifol am dwristiaeth.
Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys llyfrgelloedd, canolfannau hamdden a chaeau chwaraeon, ac mae disgwyl y bydd y Cynghorwyr yn cymeradwyo’r cynigion heddiw.
Er hyn, mae nifer wedi beirniadu’r cynllun gydag aelodau o undeb Unsain Cymru wedi cyflwyno deiseb i Arweinydd y Cyngor yr wythnos diwethaf yn galw arnyn nhw i beidio â throsglwyddo’r cytundebau hyn i gontractwyr allanol.