Andras Millward (Llun: Llio Millward)
Mae awdur Cymraeg oedd yn arbenigo mewn nofelau ffuglen wyddonol, wedi marw yn 50 oed.

Roedd Andras Millward yn byw ym Mryste, ond cafodd ei fagu yn Aberystwyth yn fab i’r darlithydd Cymraeg, Tedi Millward a Silvia Hart, ac yn frawd i’r gantores sy’n byw ac yn gweithio yn Llundain, Llio Millward.

Gwnaeth ei enw fel awdur nofel i ddysgwyr yn 1999 Deltanet ynghyd â Prosiect Nofa ac Un Cythraul yn Ormod ymhlith eraill.

Fe fu’r awdures Elin Llwyd Morgan yn cydweithio ag ef ar amryw brosiectau gan ddod i’w adnabod trwy ei gwaith yng ngwasg Y Lolfa pan gyhoeddodd Andras Millward ei nofel, Prosiect Nofa.

“Mae ei gyfraniad yn un pwysig achos roedd o’n ysgrifennu mewn genre sy’n eithaf anodd yn y Gymraeg,” meddai.

“Mi oedd o’n berson addfwyn iawn, ac roedd ganddo hiwmor tawel. Mi oedd o’n edrych ar fywyd mewn ffordd wahanol ac roedd hynny’n cael ei adlewyrchu yn ei lyfrau dw i’n meddwl.”

Roedd Andras Millward hefyd yn athro a hyfforddwr campau amddifyn (self defence) ym Mryste.

Bu farw ar Hydref 16, ac fe fydd ei angladd yn cael ei gynnal ym Mryste ar Dachwedd 19. Mae’n gadael dwy ferch, Megan Daisy a Hannah Lilly.