Mae cyn-bennaeth staff Nigel Farage, wedi tynnu o’r ras i fod yn arweinydd newydd Ukip, dridiau’n unig ar ol iddo lansio ei ymgyrch.

Dywedodd Raheem Kassam fod “y llwybr at fuddugoliaeth yn rhy gul” ac mae wedi annog ei gefnogwyr i gefnogi’r cyn-ymgeisydd i fod yn Faer Llundain, Peter Whittle.

Ychwanegodd Raheem Kassam nad oedd wedi codi digon o arian ar gyfer ei ymgyrch am yr arweinyddiaeth ac mai ymgyrch ddigidol yn San Steffan yn unig fyddai wedi bod, er ei fod wedi casglu digon o arian i dalu ei flaendal.

Roedd yn un o nifer o ymgeiswyr eraill sy’n sefyll yn y ras am arweinyddiaeth y blaid gan gynnwys cyn-ddirprwy gadeirydd UKIP Suzanne Evans, y cyn-ddirprwy arweinydd Paul Nuttall ac un o ymgeiswyr UKIP yng Nghymru yn ystod yr etholiad cyffredinol diwethaf, John Rees-Evans.