Mae llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi pardwn digwestiwn i ddynion hoyw a deurywiol a gafodd eu cosbi am droseddau rhyw sydd bellach wedi’u diddymu.
Fe ddaeth cyhoeddiad heddiw gan yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Michael Matheson, y byddai pardwn yn cael ei gyhoeddi i bob un o senedd Holyrood. At hynny, fe fydd llywodraeth yr Alban hefyd yn rhoi “ystyriaeth ddwys” i’r cwestiwn a ddylai hi fod yn ymddiheuro’n gyhoeddus i’r dynion dan sylw.
Fe ddaw hyn ychydig ddyddiau wedi i ddeddfwriaeth debyg gael ei gwrthod yn Nhy’r Cyffredin yn San Steffan.
“Mae yna bobol gyda record droseddol am eu bod nhw wedi cael perthnasau sydd bellach yn gwbwl gyfreithiol,” meddai Michael Matheson, “ac mae’n rhaid i ni wneud yn iawn am y cam hwn yn eu herbyn.
“Fe fyddwn ni’n cyflwyno pardwn digwestiwn i’r rheiny gafwyd yn euog dan gyfreithiau rhagfarnllyd.”