Mae Prif Weinidog Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw i ehangu maes awyr Heathrow a chreu trydedd llain lanio yno, tra bod ymgyrchwyr amgylcheddol wedi rhybuddio y byddan nhw’n parhau i ymgyrchu erbyn y datblygiad.

“Yn ogystal â bod o fantais i deithwyr o Gymru, bydd yn dod ag ymwelwyr yma, yn helpu ein hallforwyr i gyrraedd marchnadoedd newydd ac yn creu swyddi newydd,” meddai Carwyn Jones.

Yn sgil y cyhoeddiad, dywedodd y byddai’n pwyso ymhellach ar Lywodraeth Prydain i wella cyswllt rheilffordd Western Rail a Heathrow erbyn 2024.

“Bydd y cyswllt newydd hwn, ynghyd â thrydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe a moderneiddio prif linell Gogledd Cymru a gorsaf Ganolog Caerdydd yn sicrhau bod pobol ac economi Cymru yn cael budd llawn o’r maes awyr estynedig yn Heathrow,” meddai.

Alun Cairns o blaid

Un arall sydd wedi’i groesawu yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, gan ddweud y bydd yn cael “effaith gadarnhaol” ar economi Cymru.

“Gall Llundain ddarparu cysylltiadau dyddiol lluosog i gyrchfannau rhyngwladol. Mae hyn yn newyddion arbennig i Gymru drwy ehangu gorwelion gan sicrhau mwy o gysylltiadau a bod Cymru ar agor i fusnes,” meddai.

Er hyn, mae’r cynllun wedi’i feirniadu’n hallt gan rai ymgyrchwyr amgylcheddol.

Yn ôl llefarydd ar ran Cyfeillion y Ddaear mae’r cynllun yn “gwawdio ymrwymiadau’r llywodraeth i fynd i’r afael â newid hinsawdd.”

Ychwanegodd y bydd “trydedd lain glanio yn golygu chwarter miliwn ychwanegol o deithiau awyr y flwyddyn ac yn gwneud lefelau llygredd aer a sŵn yn annioddefol, annerbyniol a mwy na thebyg yn anghyfreithiol.”

Dywedodd y llefarydd y byddan nhw’n parhau i ymgyrchu yn erbyn y penderfyniad.