O’r wythnos nesa’ ymlaen, fe fydd Aelodau Cynulliad yn cael y cyfle i godi materion amserol mewn slotiau byr, 90 eiliad yn ystod y Cyfarfod Llawn – a’r bwriad ydi gwneud pethau ychydig yn fwy diddorol bob prynhawn dydd Mercher.

Mae’r fenter hon, a gynigiwyd gan Elin Jones AC, y Llywydd, ac a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Busnes, yn golygu y bydd cyfnod o bum munud yn cael ei neilltuo unwaith yr wythnos i o leia’ dri Aelod wneud datganiad.

Y Cynulliad fydd y ddeddfwrfa gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno’r drefn hon, sydd eisoes yn cael ei chynnig mewn seneddau eraill mewn gwledydd fel Awstralia a Chanada.

Y rheolau

Caiff unrhyw Aelod wneud datganiad 90 eiliad ar unrhyw bwnc sy’n bwysig iddynt, a gellid defnyddio’r amser, er enghraifft, ar gyfer:

  • trafod materion sy’n peri pryder i’w hetholwyr;
  • tynnu sylw at faterion lleol;
  • nodi dathliadau neu ddyddiadau pwysig;
  • talu teyrngedau.

Os bydd nifer fawr o Aelodau’n gwneud cais i siarad ar yr un diwrnod, bydd y Llywydd yn defnyddio ei disgresiwn i ddewis o leiaf dri datganiad ar sail y wybodaeth a ddarparwyd.

Pam?

“Un o fy mhrif amcanion ers cael fy ethol yn Llywydd yw bywiogi trafodion y Cyfarfod Llawn drwy neilltuo amser ar gyfer mathau newydd o fusnes,” meddai Elin Jones.

“Rwy’ eisoes wedi sicrhau cytundeb y Pwyllgor Busnes i roi cyfle i gadeiryddion pwyllgorau wneud datganiadau yn gynnar yn y broses o gynnal ymchwiliadau pwyllgor er mwyn codi ymwybyddiaeth a chynyddu cyfleoedd ymgysylltu.

“Mae Datganiadau Aelodau yn cael eu defnyddio’n eang yn seneddau eraill y Gymanwlad, yn bennaf i roi cyfle i Aelodau wneud datganiadau byr, heb rybudd, ar bwnc amserol neu fater sydd o ddiddordeb i’w hetholwyr neu i’r cyhoedd yn gyffredinol.

“Mae’r Cynulliad yn sefydliad democrataidd modern a dylem bob amser fod yn chwilio am gyfleoedd i wneud ein gwaith yn fwy perthnasol i bobl Cymru er mwyn eu cynnwys yn y gwaith hwn.”

Bydd y datganiadau personol 90 eiliad cynta’ yn cael eu gwneud ar ôl toriad yr hanner tymor, ar Dachwedd 2,a bydd y drefn newydd hon yn cael ei hadolygu gan y Pwyllgor Busnes yn y flwyddyn newydd.