Rhodri Llwyd Morgan (Llun: Mudiad Meithrin)
Mae Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth wedi’i benodi yn gadeirydd newydd Mudiad Meithrin Cymru.
Mae Rhodri Llwyd Morgan wedi penderfynu dilyn ôl troed ei fam, Eleri Morgan, wrth ymgymryd â’r rôl wirfoddol hon am iddi hithau fod yn Gadeirydd y mudiad rhwng 2002 a 2005.
Mae’n cymryd yr awenau oddi wrth Rhiannon Lloyd a fu’n gadeirydd am dair blynedd, ac mae’r Mudiad Meithrin yn dathlu 45 mlynedd o fodolaeth eleni.
Dywedodd Rhodri Llwyd Morgan: “Mae’n fraint eithriadol cael bod yn Gadeirydd ar fudiad sydd mor agos at galon cynifer o bobol Cymru.
“Mae gwaith Mudiad Meithrin yn hynod o bwysig ac mae darpariaeth y Cylchoedd Meithrin a’r Cylchoedd Ti a Fi yn ein cymunedau yn allweddol i ddyfodol yr iaith.
“Gyda’r her o gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050 a darparu tri deg awr o ofal plant rhad ac am ddim yr wythnos i blant 3 a 4 mlwydd oed, mae gwaith Mudiad Meithrin mor bwysig ag erioed,” meddai wedyn.