Y diweddar Eifion Gwynne
Mae tad-yng-nghyfraith Eifion Gwynne, y chwaraewr rygbi a fu farw yn Sbaen dros y penwythnos, wedi talu teyrnged i wr oedd bob amser yn barod i helpu eraill.
Yn ôl yr awdur a chyn-guradur Amgueddfa Werin Sain Ffagan, Robin Gwyndaf, “roedd pawb yn licio Eifion ac roedd o’n gwneud ei orau dros bawb”. Fe fyddai wedi dathlu ei ben-blwydd yn 42 oed ddoe (dydd Llun, Hydref 24).
Roedd Eifion Gwynne, trydanwr o Aberystwyth, wedi teithio i Malaga yn Sbaen ar gyfer angladd tad ei ffrind pan gafodd ei daro gan gar. Roedd y teulu wedi gofyn iddo ddweud gair yn y gwasanaeth, ac roedd wedi gwneud hynny cyn cael ei ladd mewn damwain ar y ffordd yn ôl i’w westy.
“Mae’n golled ofnadwy i Nia (gwraig Eifion) a’r plant bach,” meddai Robin Gwyndaf gan gyfeirio at ei ferch a’i wyrion 11, 9 a 5 oed yn Heol Ddewi, Aberystwyth.
Teulu mawr
“Roedd Eifion ei hun o deulu mawr, deg o blant,” meddai Robin Gwyndaf wedyn. “Mae pob un ohonyn nhw yn grefftwyr ac yn barod i helpu…
“Mi gollodd Eifion ei dad yn lled ifanc ac mae pob un ohonyn nhw yn glod i’w mam, Ann Gwynne, a fagodd y plant.
“Y peth arbennig iawn am Eifion oedd ar ôl iddo orffen chwarae rygbi, roedd o eisiau ysbrydoli eraill ac wedi dechrau hyfforddi plant. Mi oedd hynny’n beth braf iawn, ei fod am rannu ei allu efo pobol eraill.”
Mae clwb rygbi Aberystwyth yn bwriadu trefnu gwylnos i gofio am Eifion Gwynne yn ystod y dyddiau nesa’.