Llun: BBC
Mae plant sy’n ffoaduriaid o Syria wedi cael eu darganfod yn gwneud dillad ar gyfer brandiau ffasiwn Prydeinig yn Nhwrci.
Honnir bod plant mor ifanc â 15 oed yn gweithio ar ddillad ar gyfer Marks & Spencer a’r siop ddillad ar-lein ASOS – gyda rhai yn gweithio mwy na 12 awr y dydd.
Meddai ffatri arall wrth raglen Panorama y BBC eu bod yn gwneud dillad i Next a daethpwyd o hyd i eraill yn gweithio yn anghyfreithlon i siopau Zara a Mango.
Daeth y rhaglen o hyd i saith o ffoaduriaid o Syria yn gweithio yn un o brif ffatrïoedd Marks & Spencer, gyda ffoaduriaid yn ennill tua £1 yr awr – llawer is na’r isafswm cyflog yn Nhwrci.
Roedd y gweithiwr ieuengaf yn 15 mlwydd oed ac yn gweithio 12 awr y dydd yn smwddio dillad cyn eu hanfon i’r DU.
Doedd gan y rhan fwyaf o’r ffoaduriaid ddim trwyddedau gwaith ac mae llawer yn gweithio’n anghyfreithlon yn y diwydiant dillad.
Dywedodd y gohebydd Darragh MacIntyre bod y gweithwyr o Syria yn teimlo eu bod yn cael eu hecsbloetio.
Mae pob un o’r cwmnïau wedi dweud wrth Panorama eu bod yn monitro eu cadwyni cyflenwi yn Nhwrci yn ofalus ac nid ydynt yn goddef ecsbloetio ffoaduriaid neu blant.
Dywedodd Marks & Spencer nad yw ei arolygiadau mewnol wedi dod o hyd i ffoaduriaid o Syria yn gweithio yn ei ffatrïoedd yn Nhwrci, ond mae’r cwmni wedi dweud bod canfyddiadau’r rhaglen yn “hynod ddifrifol” ac “annerbyniol”.