David Davis AS (Robert Sharp CCA 2.0)
Mae gweinidog Brexit llywodraeth Prydain, David Davis, wedi gwrthod galwad Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, am gytundeb ar wahân i’r Alban ar adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mewn ymweliad â Glasgow, mynnodd David Davis fod mewnfudo a chysylltiadau rhyngwladol yn faterion sy’n rhaid iddynt gael eu penderfynu ar fel y Deyrnas Unedig.
“Rhaid inni gael cytundeb ar adael yr Undeb Ewropeaidd a fydd yn berthasnol i’r Deyrnas Unedig,” meddai. “Fe fydd yn adlewyrchu buddiannau pobl yr Alban, ond buddiannau Gogledd Iwerddon, Cymru a Lloegr hefyd.
“Mae’n anodd gweld sut y gallai polisi mewnfudo ar wahân weitio ar gyfer unrhyw rhan o’r deyrnas. Fe gawsom ddadl debyg yn Llundain.”