Leanne Wood (llun: Stefan Rousseau/PA)
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud yn glir nad yw ei phlaid yn edrych am gael clymblaid â Llafur Cymru.
Fe gadarnhaodd Leanne Wood ei safbwynt mewn araith yng nghynhadledd Plaid Cymru yn Llangollen.
Dywedodd ei bod yn hapus gyda’r “rôl gwrthblaid” y mae’r Blaid yn ei chwarae ar hyn o bryd.
Roedd rhai wedi codi’r cwestiwn o glymbleidio â’r Blaid Lafur ar ôl i Leanne Wood ddweud na fyddai’n “diystyru’r” posibilrwydd.
‘Derbyn’ Brexit
Dywedodd hefyd fod Plaid Cymru yn “derbyn” canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ond na fyddan nhw “byth yn derbyn bargen sy’n gadael Cymru mewn sefyllfa waeth.”
Fe feirniadodd strategaethau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain ar Brexit, gan ddweud nad oedden nhw’n gwybod i ba gyfeiriad i fynd.
Ychwanegodd hefyd fod angen i Gymru fod yn “hunangynhaliol” yn dilyn Brexit, ac y gallai Cymru fanteisio ar y sefyllfa drwy gael mwy o bwerau.
“Gydag arweinyddiaeth gref, gall Cymru hyd yn oed ddod allan o’r cyfnod hwn yn gryfach nag o’r blaen,” meddai.
“Gall sawl opsiwn ddod i’n gwlad, yn amrywio o [gael] Deyrnas Unedig ffederal neu gydffederal, yr holl ffordd i Gymru annibynnol.”
‘Ymgyrch newydd’
Cyhoeddodd Leanne Wood hefyd y byddai Plaid Cymru’n dechrau ymgyrch i “adnewyddu democratiaeth” yng Nghymru.
Mae hyn, yn ôl yr arweinydd, yn golygu y bydd aelodau Plaid Cymru yn mynd allan i gymunedau cyn yr etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai, i holi barn pobol Cymru am ein democratiaeth.
Ei neges olaf oedd y byddai Plaid Cymru’n “gwneud gwahaniaeth” ac y byddai “Cymru’n symud ymlaen, yn gryfach.”