Wedi mynd... David Cameron, cyn-AS Witney
Mae’r Ceidwadwyr wedi llwyddo i gadw hen sedd seneddol David Cameron mewn isetholiad er gwaethaf her gref gan y Democratiaid Rhyddfrydol.
Er i’r bargyfreithiwr Robert Courts ennill i’r Torïaid, fe gafodd mwyafrif David Cameron ei dorri o mwy na 25,000 yn yr etholiad cyffredinol y llynedd i ddim ond 5,702.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Tim Farron bod y canlyniad yn dangos bod y cyhoedd yn erbyn “Brexit caled” gan ychwanegu ei bod yn dangos nad dyma’r diwedd i’w blaid ar ôl eu perfformiad trychinebus etholiad cyffredinol.
Yn gynharach enillodd Llafur isetholiad Batley a Spen – sydd wedi bod yn wag ers llofruddiaeth yr AS Jo Cox ychydig ddyddiau cyn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd. Doedd y prif bleidiau eraill ddim yn sefyll yno.
Ond roedd nifer a bleidleisiodd yn Batley a Spen yn llai na 26% – ymhlith yr isaf mewn isetholiad ers yr Ail Ryfel Byd.