Mae cyfreithiwr blaenllaw sy’n arbenigo mewn hawliau ieithyddol, yn ofni y bydd ymosodiadau geiriol ar leiafrifoedd fel y Cymry Cymraeg yn cynyddu yn sgîl y bleidlais Brexit.

Mae Emyr Lewis yn pryderu am sefyllfa gymdeithasol y Gymraeg yn wyneb yr hyn y mae’n ei ddisgrifio fel “cynnydd mewn rhethreg senoffobaidd a gwrthleiafrifol”.

Bydd yn gwyntyllu’r pryderon mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Bangor sy’n trafod effaith Brexit ar y Gymraeg.

Mae Emyr Lewis, sy’n gyfreithiwr gyda Chwmni Blake Morgan, yn dadlau fod y bleidlais Brexit wedi hybu rhethreg yn erbyn lleiafrifoedd:  “Yr hyn sy’n fy mhryderu gyda Brexit ydi bod y rhethreg senoffobaidd gwrth-leiafrifol wedi cynyddu yn sylweddol oddi fewn i ddisgwrs gwleidyddiaeth Brydeinig.

“Mae fel tase bron a bod yn awr wedi dod yn rhan o’r brif ffrwd yn y ffordd doedd o ddim o’r blaen, gyda gwleidyddion prif ffrwd nawr yn dweud pethau na fyse nhw ddim wedi breuddwydio ddweud flwyddyn yn ôl.”

Mae Emyr Lewis yn ofni y bydd hynny yn cael sgil effaith ar y lleiafrif sy’n siarad Cymraeg.

“Yr ydym wedi gweld yn y gorffennol adegau lle mae ymosodiadau ar y lleiafrif sy’n siarad Cymraeg wedi digwydd, rhai clasurol fod siaradwyr Cymraeg yn cael y swyddi i gyd, cymharu gyda Pwyliaid yn cael y swyddi. Dw i’n pryderu am sefyllfa gymdeithasol /wleidyddol y Gymraeg , dw i’n ofni ei fod yn fater sy’n pegynnu yn hytrach nag uno pobl.”

Brexit – tolc i’r ffermwyr a’r iaith

Mae Emyr Lewis hefyd yn gofidio fod ansicrwydd dros arian Ewropeaidd i ffermwyr yn debyg o arwain at ddiboblogi gan effeithio ar gadarnleoedd y Gymraeg.

“Mae effaith economaidd ar ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn iaith gref o ran ei chanrannau,  yn ardaloedd lle mae amaethyddiaeth yn cyfrannu yn bwysig at yr economi leol yn ogystal  â chronfeydd arian Ewropeaidd. Oni bai bod yna gynhaliaeth a pholisi amaethyddol mewn lle yn delio gyda’r her a ddaw, yn absenoldeb y ffrwd o arian, yna, dw i’n pryderu am economi ardaloedd y Gymraeg a fydd yn ei dro yn arwain at ddiboblogi o’r ardaloedd hyn.”

Cynhelir y gynhadledd ar Dachwedd 8 yn Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor.