Bailey Gwynne Llun: Heddlu'r Alban
Fe allai marwolaeth y bachgen ysgol 16 mlwydd oed, Bailey Gwynne, fod wedi’i osgoi petai’r rhai oedd yn gwybod bod y disgybl a’i laddodd ag arfau yn ei feddiant wedi dweud wrth aelodau o staff, yn ôl adolygiad annibynnol.
Cafodd Bailey Gwynne, 16, ei ladd ar ôl cael ei drywanu yn ei frest gyda chyllell yn Cults Academy yn Aberdeen ar 28 Hydref y llynedd
Mae’r adolygiad amlasiantaeth i’r digwyddiad yn Aberdeen wedi gwneud cyfres o argymhellion gan gynnwys galw ar Lywodraeth yr Alban i ystyried newid y gyfraith er mwyn rhoi mwy o bŵer i athrawon archwilio disgyblion.
Cafodd llofrudd Bailey Gwynne, bachgen 16 mlwydd oed na ellir cyhoeddi ei enw am resymau cyfreithiol, ei garcharu am hyd at naw mlynedd ym mis Ebrill ar ôl i reithgor ei gael yn euog o ladd a bod ag arfau yn ei feddiant.
Cafodd yr ymchwiliad ei arwain gan yr arbenigwr amddiffyn plant Andrew Lowe a daeth i’r casgliad na ellid fod wedi rhagweld neu osgoi’r digwyddiad ar y diwrnod oni bai y byddai’r disgyblion oedd yn gwybod am y gyllell fod wedi dweud wrth staff yr ysgol.
Argymhellion
Ar hyn o bryd mewn ysgolion yn yr Alban, mae’n rhaid i ddisgyblion roi caniatâd i gael eu harchwilio gan athrawon. Os yw’r disgybl yn gwrthod, mae’r heddlu’n cael eu galw gan fod y plentyn neu berson ifanc yn cael ei amau o fod ag arf.
Mae’r adolygiad yn argymell Llywodraeth yr Alban i newid y gyfraith a gwella’r drefn oherwydd y bygythiad gan arfau.
Clywodd yr achos bod y gyllell a ddefnyddiwyd yn y digwyddiad wedi cael ei brynu ar-lein heb i’r llofrudd orfod profi ei oed. Mae’r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth yr Alban edrych ar sut mae atal hynny rhag digwydd.
Mae’n argymell hefyd bod Cyngor Dinas Aberdeen yn gweithio gyda Heddlu’r Alban i lunio polisi “clir ac effeithiol” ar reoli arfau ymosodol mewn ysgolion, a bod fforymau disgyblion a chynghorau yn datblygu ffyrdd “diogel” i ganiatáu pobl ifanc i rannu unrhyw wybodaeth am arfau gydag athrawon.