Mae Nigel Farage wedi mynnu y bydd yn parhau yn arweinydd dros dro UKIP tra bod y blaid yn ethol olynydd parhaol yn dilyn ymddiswyddiad Diane James ar ôl dim ond 18 diwrnod yn y swydd.
Mae hefyd wedi diystyru awgrymiadau y gallai Neil Hamilton – arweinydd UKIP yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru – gael ei benodi’n arweinydd dros dro gan Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y blaid.
Dywedodd Nigel Farage ei fod yn dal i fod yn gyfrifol am y blaid gan nad yw papurau cofrestru Diane James wedi cael ei brosesu gan y Comisiwn Etholiadol.
Dywedodd Neil Hamilton na fyddai’n rhoi ei enw yn yr het ar gyfer yr arweinyddiaeth.
‘Rhesymau personol’ Diane James
Yn ei datganiad ymddiswyddiad a gafodd ei ryddhau yn hwyr ddydd Mawrth, dywedodd Diane James ei bod yn rhoi’r gorau iddi am resymau “personol a phroffesiynol”, gan nodi diffyg cefnogaeth ymhlith ASEau a swyddogion y blaid.
Mae disgwyl i Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y blaid gynnal cyfarfod brys yn ystod y dyddiau nesaf i benderfynu sut i fwrw ymlaen â’r ras arweinyddiaeth.
Mynnodd Nigel Farage oedd ganddo unrhyw fwriad o aros fel arweinydd parhaol.
Llefarydd y blaid ar fudo a materion ariannol, ASE Gogledd-Orllewin Lloegr Steven Woolfe, yw ffefryn cynnar y bwci ar ôl cael ei wahardd rhag sefyll tro diwethaf yn dilyn rhoi bapurau enwebu i mewn 17 munud yn hwyr.