Mae dyn 33 oed o Gaerdydd wedi ei gyhuddo o gynllwynio trosedd brawychol trwy osod system gyfrifiadurol mewn cyfflinc, wedi ymddangos yn y llys.

Cafodd Samata Ullah o Stryd Rennie yn ardal Riverside y brifddinas ei gyhuddo ddydd Mawrth o chwe throsedd yn ymwneud â brawychiaeth, yn cynnwys bod yn aelod o’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) a bod ym meddiant llyfr am daflegrau.

Mae Samata Ullah hefyd wedi cael ei gyhuddo o roi “hyfforddiant brawychol” yn y defnydd o raglenni cyfrifiadurol i guddio negeseuon; “cyfarwyddo brawychiaeth”; a “chynorthwyo eraill i gyflawni gweithredoedd o frawychiaeth”.

Honnir bod Samata Ullah yn gyfrifol am safle blog oedd yn cynnwys gwybodaeth am IS a chanllawiau seiber-ddiogelwch fel nad oedd yr awdurdodau yn gallu darllen negeseuon cudd.

Digwyddodd y troseddau honedig rhwng mis Rhagfyr 2015 a Medi 2016.

Yn ystod y gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Westminster fore heddiw, siaradodd Samata Ullah i gadarnhau ei enw, ei ddyddiad geni a’i gyfeiriad.

Cafodd ei arestio yng Nghaerdydd ar Fedi 22 ac mae wedi cael ei ddal yn y ddalfa. Bydd yn ymddangos yn yr Old Bailey, Hydref 28.