Ched Evans
Clywodd y llys heddiw bod y ddynes sy’n honni ei bod hi wedi cael ei threisio gan y pêl-droediwr Ched Evans wedi deffro’n noeth mewn ystafell gwesty ar ei ben ei hun ac ni allai gofio sut yr oedd wedi cyrraedd yno.

Mae Ched Evans, sy’n chwarae i dîm Chesterfield, yn wynebu ail achos llys dros honiadau ei fod yn treisio’r ddynes mewn gwesty yng ngogledd Cymru yn 2011.

Cafodd yr ymosodwr 27 mlwydd oed ei gael yn euog o’r drosedd yn ei achos llys cyntaf ond mae’r rheithgor wedi cael gwybod bod y dyfarniad wedi’i ddileu gan y Llys Apêl.

Mae yn awr o flaen ei well yn Llys y Goron Caerdydd ac mae’n gwadu’r cyhuddiad yn ei erbyn.

Achos yr erlyniad yw bod yr ddynes wedi bod yn rhy feddw i fod wedi cydsynio i gael ryw gyda chyn chwaraewr rhyngwladol Cymru a bod Ched Evans wedi “gadael yn llechwraidd” drwy ddrws tân yn ddiweddarach.