Jo Cox AS (Llun: Yui Mok/PA)
Mae’r dyn sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio’r Aelod Seneddol Llafur, Jo Cox, wedi gwrthod siarad pan ofynnwyd iddo gyflwyno ple yn Llys yr Old Bailey heddiw.
Mae honiadau fod Thomas Mair, 53 oed, wedi saethu a thrywanu Jo Cox, 41 oed, yn Birstall ger Leeds yn ei hetholaeth ar Fehefin 16.
Mae Thomas Mair wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth Jo Cox, o fod â dryll yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflawni trosedd, ac o fod ag arf ymosodol yn ei feddiant.
Mae hefyd wedi’i gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol i ddyn arall, sef Bernard Carter-Kenny a geisiodd helpu Jo Cox y diwrnod hwnnw.
‘Gwrthod siarad’
Ymddangosodd Thomas Mair o Birstall gerbron y Barnwr yn Llys yr Old Bailey heddiw trwy gyswllt fideo o’i garchar yn Belmarsh.
Mae ei achos yn cael ei drin o dan y “protocol brawychiaeth.”
Fe gadarnhaodd ei enw ond fe arhosodd yn dawel wedyn pan ofynnwyd iddo gyflwyno’i ble.
Yn rhinwedd ei dawelwch, gorchmynnodd y Barnwr bledion dieuog ar gyfer yr holl gyhuddiadau.
Bydd gwrandawiad pellach ar Hydref 28, ac mae achos llys dros dro wedi’i drefnu ar gyfer Tachwedd 14, lle mae disgwyl iddo bara pedair wythnos.