Julian Assange Llun: PA
Mae gan WikiLeaks mwy na miliwn o ddogfennau i’w hastudio a bydd yn rhyddhau cyfres o gyhoeddiadau yn yr wythnosau nesaf, meddai sylfaenydd y wefan Julian Assange.
Wrth siarad ar ddegfed pen-blwydd y wefan, dywedodd Julian Assange bod peth o’r wybodaeth yn ymwneud ag etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau.
Roedd yn siarad drwy gyswllt fideo mewn cynhadledd i’r wasg yn Berlin gan fod Julian Assange wedi bod yn byw yn llysgenhadaeth Ecwador yn Llundain ers bron i bedair blynedd wrth iddo geisio osgoi cael ei estraddodi i Sweden, lle mae’r heddlu eisiau ei holi ynglŷn â honiadau am drosedd rhyw. Mae Assange yn gwadu’r honiadau.
Dywedodd fod WikiLeaks wedi rhyddhau tua 3,000 o ddogfennau’r dydd dros y degawd diwethaf.