Llun: PA
Mae un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wedi dweud heddiw y byddai am weld aelodau Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi yn cael pleidlais ar delerau cytundeb y Deyrnas Unedig wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd Simon Thomas yn ateb cwestiynau newyddiadurwyr mewn cynhadledd i’r wasg Plaid Cymru yng Nghaerdydd y bore yma pan ddywedodd:

“Yn sicr dylai fod yna bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. Dw i’n meddwl yn wleidyddol ac yn gyfansoddiadol mae angen pleidlais ar delerau’r cytundeb i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd,” meddai.

‘Ymgynghori â’r Cynulliad’

Aeth yn ei flaen i ddweud: “Dw i ddim yn arbennig yn dadlau am refferendwm arall, yn sicr does gan Blaid Cymru ddim polisi ar hynny ond dw i’n credu bod hi’n gwbl briodol bod y Senedd yn cael pleidlais ar hynna ac mae’n gwbl briodol bod y Cynulliad hwn yn cael pleidlais fel rhan o’r ymgynghori,” meddai wedyn.

“Mae’n rhaid i Theresa May a’r holl Brexiteers ddangos beth bynnag yw’r cytundeb maen nhw’n ei wneud bod sefyllfa Prydain Fawr yn cael ei ddiogelu, os felly fyddan nhw’n ddigon parod i fynd â’r fath bleidlais i Dŷ’r Cyffredin.”

Yr wythnos hon, fe gyhoeddodd Prif Weinidog Prydain y bydd y trafodaethau ffurfiol i adael yr Undeb Ewropeaidd yn dechrau ym mis Mawrth 2017, gyda’r broses yn parhau am ddwy flynedd.

Dywedodd Theresa May hefyd y byddai’n ymgynghori â’r llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon – ond mai Llywodraeth Prydain fyddai’n negydu’r cytundeb i adael yr Undeb Ewropeaidd.