Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru yng Nghynhadledd y Blaid Geidwadol, Llun: Stefan Rousseau/PA Wire
Yn ei araith yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol ym Mirmingham heddiw, awgrymodd Ysgrifennydd Cymru na all y llif o arian y trethdalwyr i rai o rannau tlotaf Cymru barhau “yn yr un hen ffyrdd” ar ôl Brexit.

Awgrymodd Alun Cairns y gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd gynnig ffyrdd i gefnogi’r ardaloedd hynny’n well.

Mae hefyd wedi beirniadu “camreolaeth Llafur” o arian Ewropeaidd yng Nghymru drwy ddweud:

“16 mlynedd a £4 biliwn yn ddiweddarach, mae camreolaeth Llafur o’r cyllidebau yng Nghymru wedi gadael y cymunedau i lawr.

“Gymaint eu rhwystredigaeth, fe wnaeth yr ardaloedd hynny sydd wedi derbyn y mwyaf o arian yr Undeb Ewropeaidd (UE) bleidleisio’n gryf tros adael.

“Nid yw parhau gyda’r un cynlluniau gwario yn yr un hen ffyrdd ar ôl dau ddegawd yn opsiwn,” meddai wedyn.

‘Cyfleoedd newydd’

Ymhellach yn ei araith, dywedodd wrth y gynhadledd fod pobol yng Nghymru wedi elwa o gynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) gan arwain at y raddfa tyfiant cyflymaf y tu allan i Lundain.

“Mae Cymru wedi chwarae ei ran yn llawn wrth dyfu economi’r Deyrnas Unedig. Mae anghyflogadwyedd ar ei isaf yn y DU ac nid yw cyflogadwyedd wedi bod yn uwch yng Nghymru.”

“Llwyddiant arall yw buddsoddiad tramor, gyda 97 o brosiectau yn dod i Gymru’r llynedd gyda llawer o rhain yn elwa o gefnogaeth Masnach a Buddsoddiad y Deyrnas Unedig (UKTI).

“Mae cyfleoedd newydd a chyffrous, drwy adran y Fasnach Ryngwladol i Gymru gyda’r Deyrnas Unedig i fod yn arweinydd byd mewn masnach rydd,” meddai.