Mike Towell (o dudalen Facebook y bocsiwr)
Mae’r bocsiwr Mike Towell wedi marw ar ôl dioddef anafiadau i’w ben mewn gornest yn erbyn y Cymro Dale Evans yn Glasgow nos Iau.

Roedd wedi cael ei ruthro i ysbyty Dundee yn dioddef o waedu difrifol a’i ymennydd wedi chwyddo. Fe fu farw yno neithiwr am 11pm.

Roedd yr ornest yn cael ei darlledu ar STV Glasgow pan ddioddefodd Towell ei anafiadau angheuol.

Roedd y bocsiwr o’r Alban wedi ennill 11 o ornestau yn ei yrfa broffesiynol, dod yn gyfartal mewn un  a heb gael ei orchfygu ddim un waith.

Roedd wedi cael ei daro i lawr yn y rownd gyntaf nos Iau, ac wedyn yn y bumed, pryd y daeth yr ornest i ben.

Roedd yn 25 oed.