Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion ar ôl gwrthdrawiad angheuol rhwng car a lori ger Blaenafon brynhawn ddoe.

Fe fu farw gyrrwr 26 oed car Renault Megane arian ei liw yn y gwrthdrawiad yn erbyn lori Iveco am 12.15 pm yn ardal Garn yr Erw. Cafodd gyrrwr y lori fân anafiadau.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un â gwybodaeth eu ffonio ar 101 a nodi digwyddiad 171 ar 30 Medi 2016.