Bum mlynedd union ers cyflwyno tâl am fagiau siopa untro, mae Llywodraeth Cymru’n honni i’r cynllun fod yn llwyddiant mawr.

Ar 1 Hydref 2011 Cymru oedd y wlad gyntaf ym Mhrydain i gyflwyno isafswm tâl o 5c am fagiau o’r fath, a dywed y llywodraeth fod gostyntiad sylweddol yn eu defnydd o ganlyniad.

Mae arolwg diweddar yng Nghaerdydd wedi dangos mai 14% o gwsmeriaid archfarchnad oedd yn cario eu negeseuon mewn bagiau untro, o gymharu â 57% mewn bagiau am oes.

Mae arolwg arall wedi dangos bod 66% o’r rhai a gafodd eu holi yn cytuno bod y tâl wedi helpu lleihau sbwriel yn eu sir.

Yr amcangyfrif hefyd yw bod y tâl o 5c wedi codi tua £1 miliwn at achosion da dros y pum mlynedd diwethaf.

Bellach, mae gwledydd eraill ledled Prydain wedi mabwysiadu polisïau tebyg.

Meddai Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:

“Rydym yn falch o fod y wlad gyntaf ym Mhrydain i gyflwyno tâl bychan am ddefnyddio bagiau siopa untro, a dw i’n credu y gall pawb ohonom gytuno ei fod wedi bod yn llwyddiant mawr.

“Mae hwn, yn ogystal â’n cyfraddau ail-gylchu, yn faes y mae Cymru yn arwain ynddo.  Wrth gyflwyno’r tâl yn 2011, roeddem yn arloesi gyda pholisi oedd â manteision niferus, sydd bellach wedi ei groesawu ledled Prydain.”