Mae 20 o bobol, gan gynnwys 10 yng Nghymru, wedi cael eu dedfrydu am eu rhan mewn cynllwyn i werthu cocên werth £19 miliwn ar draws Prydain.
Cafodd tri grŵp yn ne Cymru, Lerpwl a Manceinion eu cyhuddo o werthu cocên pur i gymunedau yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, de Cymru a hyd yn oed Aberdeen yn Yr Alban.
Daeth swyddogion Ymgyrch Phobos Heddlu Dyfed Powys o hyd i 2.7 cilogram o gocên yn yr ymchwiliad cyffuriau mwyaf cymhleth y mae Tîm Troseddau Difrifol yr heddlu wedi’i weld.
Roedd trefniant gwerthu’r grwpiau yn un slic, gyda phob un â rôl unigryw yn y broses.
Matthew Roberts, 32, o Lanelli, a oedd yn gweithredu yn Sir Gaerfyrddin ac Abertawe, fu’n arwain y troseddwyr yng Nghymru.
Heddiw cafodd ei ddedfrydu i 12 mlynedd o garchar yn Llys y Goron Abertawe.
Cafodd naw arall o Gymru eu dedfrydu i gyfanswm o 77 mlynedd o garchar:
Brian Bergamo, 31, o Heol Vera, Abertawe – 11 mlynedd
Michael Lamb, 39, o Heol Prescelli, Abertawe – naw mlynedd
Michael Sillitoe, 29, o Heol Glebe, Casllwchwr – 11 mlynedd
Emma Roberts, 34, o Glos Burlais, Abertawe – 5 ½ mlynedd
Dane Bush, 29, o Stryd Fawr, Sanclêr, Caerfyrddin – 11 ½ mlynedd
Andrew Price, 38, o Bentre Nicklaus, Llanelli – 12 mlynedd
Daniel Sheldon, 32, o Heol Aylesbury, Abertawe – wyth mlynedd
Cara Begley, 26, o Heol Glebe, Casllwchwr – dedfryd ohiriedig o ddwy flynedd
Donna Kellaway, 26, o Heol Prescelli, Abertawe – saith mlynedd
Cafodd 10 arall eu carcharu o ardal Lerpwl a Manceinion:
Ian Michael Edwards, 30, o Lerpwl – 14 mlynedd
Andrew Curphey, 37, Lerpwl – saith mlynedd
Stephen Mudd, 27, Lerpwl – 11 mlynedd
Ian Andrew Stewart, 29, Lerpwl – deng mlynedd
Bradley Carroll, 31, Lerpwl – 7 ½ mlynedd
Michael Carroll, 52, Lerpwl – 6 ½ mlynedd
Allen Heron, 38, Lerpwl – 10 mlynedd
Liam Lasley, 29, Wigan – 6 mlynedd
Cafodd bachgen ifanc yn ei arddegau o Lerpwl ddedfryd o 18 mis hefyd, ond nid oes hawl cyhoeddi ei enw.
Rhybudd i droseddwyr eraill
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Huw Davies o Heddlu Dyfed Powys fod y canlyniad yn un “arbennig” i’r heddlu a’r gymuned leol.
“Dylai unrhyw grwpiau troseddol eraill sy’n meddwl am dargedu ardal Dyfed-Powys feddwl eto,” meddai.
“Efallai’n bod ni’n plismona ardal wledig, draddodiadol yn bennaf, ond mae gennym dditectifs ardderchog sydd wedi ymrwymo i sicrhau nad yw’n cymunedau’n cael eu heffeithio’n andwyol gan grwpiau troseddu difrifol fel rhain.”
Diolchodd i’r cyhoedd a “ddarparodd wybodaeth hollbwysig”, a dywedodd eu bod wedi chwarae rhan fawr yn yr ymchwiliad.
Mae disgwyl i ddedfryd arall yn yr ymchwiliad gael ei gwblhau fis nesaf.