Mae dyn o China yn cael ei amau o lofruddio ei rieni ac yna 17 o gymdogion mewn ymgais i geisio cuddio’r llofruddiaethau cyntaf.
Dywedodd yr heddlu fod ymchwiliad wedi dechrau i’r llofruddiaethau honedig mewn pentref yn nhalaith Yunnan, yn ne-orllewin y wlad.
Mae’n debyg bod y dyn, Yang Qingpei, wedi bod yn dadlau â’i rieni dros arian nos Fercher cyn eu lladd, yn ôl adroddiadau.
Gan ofni y byddai pobol yn dod i wybod mai ef oedd y llofrudd, mae honiadau ei fod wedi mynd ymlaen i ladd 17 o’u cymdogion.
Does dim manylion hyd yn hyn ar sut gafodd y pentrefwyr eu lladd.
Mae llofruddiaethau o’r raddfa hon yn brin iawn yn China, a dyma’r un mwyaf gwaedlyd ers blynyddoedd.
Oherwydd rheolau llym China o ran gynnau, mae llofruddiaethau o’r fath fel arfer yn cael eu cyflawni gyda chyllyll, gwenwyn neu ffrwydron wedi’u gwneud yn y cartref.