Heddiw, ar Ddiwrnod Symudedd y Fuwch, mae criw Cyswllt Ffermio yn tynnu sylw at beryglon cloffni mewn gwartheg ar ffermydd llaeth.
Yn ôl y cwmni, mae clwyfau ar wadn y droed, clefyd y llinell wen a dermatitis digidol yn gyfrifol am 90% o broblemau ar ffermydd llaeth.
Gall y cyflyrau gostio cannoedd o bunnoedd i’r ffarmwr, effeithio ar gynhyrchiant llaeth a ffrwythlondeb, a gall gynyddu’r perygl o orfod difa gwartheg hyd at 56%.
Yn ôl y milfeddyg Sara Pederson, mae pedwar maes yn gallu effeithio ar gloffni ac iechyd y traed, fel heintiau, ansawdd a siâp y carn, pwysau ar y traed a’r methiant i ganfod problem yn gynnar.
Ffyrdd o osgoi
Wrth godi ymwybyddiaeth mewn digwyddiad ym Mrynbuga, dywedodd fod angen lleihau’r perygl o heintiau ar y fferm drwy hylendid da a golchi traed gwartheg i helpu i gadw bacteria oddi ar y traed.
Mae cadw siâp ac ansawdd y carn yn bwysig hefyd, er mwyn gwella gallu’r fuwch i ddal ei phwysau ac yn lleihau’r risg o gael clwyfau ar wadn y droed a chlefyd y llinell wen.
Mae’r clwyfau yn debygol o godi os bydd y fuwch yn anghyfforddus a phan fo llif gwartheg yn broblem ar fferm, gall clefyd y llinell wen fod yn fwy cyffredin.
“Y cynharaf oll y gallwn drin y gwartheg, y cynharaf oll y byddant yn gwella. Mae hynny’n wir i bob achos o gloffni, felly mae sgorio symudedd yn bwysig iawn,” meddai Sara Pederson.