Ym mis Tachwedd bydd dau ddigwyddiad yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd i drafod lle Cymru yn Ewrop ac yn rhyngwladol, a’r newidiadau all ddigwydd i agweddau o fywyd Cymru o ganlyniad i’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Yn ôl trefnwyr digwyddiadau Endevant, y label recordiau Turnstile sy’n rhyddhau cynnyrch Gruff Rhys a Cate Le Bon ymysg eraill, y bwriad yw creu trafodaeth “agored gynhwysol drwy amrywiol gyfrwng celfyddydol” mewn cyfres o ddigwyddiadau a phodlediadau i drafod “Cymru heddiw, fory â’n lle yn y byd.”
Y ddau ddigwyddiad sydd wedi eu trefnu hyd yma yw noson ‘Pub Politics’ gyda’r gantores Charlotte Church a digwyddiad ble fydd yr awdur Jon Gower yn holi’r naturiaethwr Iolo Williams am beth fydd effaith Brexit ar amgylchedd Cymru
Plismona deddfau cadwraeth
Wrth siarad gyda golwg360 am y digwyddiad, dywedodd Iolo Williams mai’r broblem fwyaf mae o’n ei weld gyda gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE) ar hyn o bryd yw bod y corff hwnnw yn aml wedi plismona deddfau cadwraeth i wneud yn siŵr bod Llywodraethau Cymru a Phrydain yn gwarchod cynefinoedd gwyllt yr ynysoedd hyn.
Yr wythnos hon daeth hi i’r amlwg bod y Comisiwn Ewropeaidd yn erlyn Llywodraeth Prydain yn y Llys Cyfiawnder Ewrop am fethu dyrannu ardaloedd morol diogel i lamidyddion harbwr er bod eu niferoedd yn lleihau.
Dywedodd Iolo Williams: “O dan Cyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE, mae Prydain wedi cael eu cosbi am beidio edrych ar ôl rhywogaethau sydd angen cael edrych ar eu hôl.
“Ond unwaith tydi’r rhwyd ddiogelwch ddim yno mwyach – yn enwedig o dan y Llywodraeth sy’n San Steffan ar hyn o bryd – bydd diddordebau busnesau mawr yn dod o flaen bywyd gwyllt bob tro.”
‘Methu coelio’r peth’
Y bore wedi’r refferendwm, dywedodd Iolo Williams nad oedd o’n “credu’r peth”, gan ychwanegu ei fod o wedi pleidleisio i aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.
“Dw i’n meddwl bod llawer wedi pleidleisio i adael am bo nhw ddim yn deall y ddadl,” meddai. “Mae o’n drist ofnadwy – a tybed faint sy’n difaru erbyn hyn?”
Cyfle
Ond dyw Iolo Williams ddim o’r farn bod gadael Ewrop yn ddrwg i gyd ac mae’n gweld cyfle hefyd, yn enwedig pan mae hi’n dod at Bolisi Amaeth Cyffredin (CAP) yr Undeb Ewropeaidd sy’n rhoi cymhorthdal i ffermwyr a thirfeddianwyr.
“Mae CAP ar hyn o bryd yn rhoi arian i helpu amaethwyr ac mae rhan ohono i fod i warchod bywyd gwyllt hefyd,” esbonia Iolo.
“Ond fel mae ymchwiliad gan Greenpeace wedi dangos yr wythnos hon, mae’r rhan fwyaf o’r arian yn mynd i dirfeddianwyr mawr ac felly mae ffermwyr cyffredin a bywyd gwyllt yn dioddef yn sgil hynny.”
Adroddiad ‘State of Nature’
Ac yn ôl adroddiad State of Nature yr elusen amddiffyn adar, yr RSPB, a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn, allan o’r 5,000 o’r rhywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion sydd yng Nghymru, mae 354 neu 7% mewn perygl o ddiflannu yn gyfan gwbl.
Dywedodd Iolo Williams: “Mae’r adroddiad yn dangos ein bod ni mewn trafferthion ofnadwy. Mae ieir fach yr haf, planhigion ac anifeiliaid mewn perygl o ddiflannu’n llwyr ac er nad ydw i’n wleidydd, dwi’n gweld beth sy’n digwydd yng nghefn gwlad, a dyna beth fydda i’n ei rannu ar y noson.”
Bydd digwyddiad ‘Yn erbyn ein natur’, Jon Gower yn holi Iolo Williams am effaith Brexit ar amgylchedd Cymru, yn cael ei gynnal yng Ngwesty Jolyons, Cathedral Road, Caerdydd ar 14 Tachwedd am 7.30 yr hwyr.
Bydd ‘Charlotte Church’s Pub Politics’, noson dan ofal Charlotte Church, yn cael ei gynnal yn nhafarn y Cornwall, Grangetown, Caerdydd ar 21 Tachwedd am 7.30 yr hwyr.
Mae tocynnau i’r ddau ddigwyddiad ar gael yma: http://www.seetickets.com/promoter/turnstile/15229/list