Mae llong ofod Rosetta wedi glanio ar wyneb comed y mae wedi bod yn ei archwilio am y ddwy flynedd ddiwethaf, gan ddod â thaith ofod gwerth biliwn o bunnau i ben.
Clywodd Asiantaeth Ofod Ewrop (Esa) bod Rosetta wedi glanio 40 munud ar ôl iddi wneud hynny, oherwydd ei bod hi’n cymryd cymaint â hynny i signal radio gyrraedd y ddaear o gomed 67P/Churyumov-Gerasimenko sydd 485,000,000 o filltiroedd i ffwrdd.
Y gomed fydd man gorffwys olaf Rosetta am ei fod yn teithio mor bell o’r haul nes na fydd ei baneli solar yn gallu cynhyrchu digon o bŵer i’w gynnal.
Cyrhaeddodd Rosetta gomed 67P/Churyumov-Gerasimenko ar 6 Awst, 2014 ar ôl taith 10 mlynedd ar draws pedwar biliwn o filltiroedd o ofod.
Mae’r llong ofod wedi anfon cyfoeth o ddata nôl i’r ddaear sy’n darparu cliwiau gwerthfawr am darddiad Cyfundrefn yr Haul a bywyd ar y ddaear.
Mae’r darganfyddiadau allweddol yn cynnwys dod o hyd i ffurf anarferol o ddŵr sydd ddim yn gyffredin ar y ddaear a moleciwlau carbon organig sy’n cynnwys blociau adeiladu bywyd ar y ddaear.