Y Smiler yn Alton Towers, Llun: Alton Towers
Roedd effaith gwrthdrawiad yr atyniad Smiler yn Alton Towers y llynedd yn gyfystyr â char yn gwrthdaro ar gyflymder o 90 milltir yr awr.
Dyna glywodd Llys y Goron Stafford heddiw yn y gwrandawiad i’r hyn a ddigwyddodd ar 2 Mehefin 2015.
Clywodd y llys hefyd y byddai’r cwmni oedd yn gyfrifol am yr atyniad, Merlin Attractions Operations, yn wynebu dirwy hyd at £10 miliwn yn sgil torri’r rheolau iechyd a diogelwch.
Gadawyd pump o bobol ag anafiadau sy’n newid bywyd ac yn eu plith roedd Vicky Balch, oedd yn 19 ar y pryd, a Leah Washington oedd yn 17, ill dwy wedi colli coes.
‘Gwylio mewn arswyd’
Dywedodd yr erlynydd, Bernard Thorogood, fod y teithwyr wedi gwylio “mewn arswyd” wrth sylweddoli fod eu cerbyd am wrthdaro â cherbyd gwag arall.
Ychwanegodd fod hyn yn gyfystyr “â char teuluol yn pwyso 1.5 tunnell yn gwrthdaro ar tua 90mya.”
Dywedodd wrth y llys fod y camgymeriadau a wnaed wedi’u gwneud gan unigolion, ond bod y cyfrifoldeb terfynol yn aros gyda’r cyflogwyr.
Daeth i’r casgliad fod yr atyniad “wedi’i ddylunio’n dda” a bod y systemau rheoli cyfrifiadurol yn “soffistigedig.”
Ond, dywedodd nad oedd Merlin wedi llwyddo i sicrhau peirianwyr o adran gwasanaeth technegol y parc i atgyweirio’r namau.
‘Gwella’ diogelwch yr atyniad
Fe wnaeth cwmni Merlin gynnal ymchwiliad annibynnol eu hunain ym mis Ebrill eleni gan ganfod fod gweithiwr wedi “diystyru’r system gyfrifiadurol â llaw.”
Clywodd y llys fod Alton Towers wedi cwblhau 30 o newidiadau i wella diogelwch yr atyniad ers y ddamwain.