Mae plismon a gafodd ei ffilmio wrth iddo ddifrodi car yn destun ymchwiliad, yn ôl yr heddlu.
Mae dyletswyddau’r plismon wedi cael eu cyfyngu yn dilyn y digwyddiad yn Camden.
Cafodd ei ffilmio’n torri ffenest y car a gweiddi ar y gyrrwr i “ddod allan o’r car”.
Cafodd y car ei stopio gan Heddlu Llundain, ond ni chafodd y gyrrwr ei arestio.
Mae modd clywed y gyrrwr yn y fideo yn dweud bod ganddo fe drwydded ac yswiriant a bod y plismon yn difrodi’r car “heb reswm”.
Ar ôl torri’r ffenest, defnyddiodd y plismon gyllell i farcio’r car.
Dywedodd Heddlu Scotland Yard fod cwyn wedi cael ei gwneud wrth Heddlu Llundain ar ôl i’r fideo ddod i’r amlwg.
Mae’r gyrrwr, Leon Fontana, 25, yn honni bod yr heddlu wedi ei gymryd am rywun arall a’i fod e wedi treulio’r noson yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth ar ôl i wydr fynd i’w lygaid yn ystod y digwyddiad.