Ni fydd Llywodraeth Prydain yn cyflwyno rhagor o doriadau i’r gyllideb les, yn ôl Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau San Steffan, Damian Green.

Yn ôl Green, mae llymder ar ben ond mae angen i Lywodraeth Prydain gadw at doriadau sydd eisoes wedi’u cynllunio.

Daw’r cyhoeddiad er gwaethaf diffyg o £4 miliwn ar ôl i Lywodraeth Prydain droi eu cefn ar doriadau i’r budd-dal anabledd.

Dywedodd Damian Green wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Tr ymrwymiad mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud ers iddi ddod i’r swydd yw ufuddhau i’r ymrwymiadau rydyn ni eisoes wedi’u gwneud.

“Ond ni fydd chwilio am ragor o doriadau i fudd-daliadau lles unigol.”