Achosi “rhaniadau dyfnach” o fewn y Blaid Lafur yw bwriad Jeremy Corbyn wrth gyflwyno cynlluniau i alw am etholiadau i ddewis cabinet cysgodol, yn ôl Owen Smith.

Mae Aelod Seneddol Pontypridd yn herio Corbyn am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, gyda’r canlyniad yn cael ei gyhoeddi’r wythnos nesaf.

Yn ôl Corbyn, hoffai weld traean o’r cabinet cysgodol yn cael ei ddewis gan aelodau’r blaid, traean gan aelodau seneddol a thraean ganddo fe ei hun.

Ond mae Smith wedi wfftio honiadau Corbyn mai “estyn allan” mae e’n ei wneud drwy awgrymu’r cynlluniau.

Yn ôl Smith, dylai’r cabinet cysgodol gael ei ethol gan aelodau seneddol yn unig.

Dywedodd Owen Smith wrth raglen Murnaghan ar Sky News: “Mae’n cael ei gyflwyno, mae’n debyg, fel arwydd o gymodi gan Jeremy. Nid arwydd o gymodi ydyw, nid ymgais syml i ymestyn democratiaeth o fewn y Blaid Lafur.

“Mae’n ymgais i achosi rhaniadau dyfnach rhwng aelodau newydd ac aelodau seneddol. Mae’n ymgais i ddiogelu ei safle ymhellach a defnyddio aelodau fel ffordd o greu bwlch rhwng aelodau seneddol a’i arweinyddiaeth.

“Pe bai e o ddifri am geisio uno’r blaid, fe fyddai e’n cymryd o ddifri y syniad o fynd yn ôl i’r dull traddodiadol oedd gyda ni o sicrhau bod rhywfaint o gydbwysedd yn y cabinet cysgodol, a phawb yn teimlo o fewn y blaid eu bod nhw wedi’u cynrychioli, sef eu hethol drwy’r Blaid Lafur.”

Bydd cynlluniau Corbyn yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol ddydd Mawrth, ac mae disgwyl i ddirprwy Corbyn, Tom Watson gyflwyno cynlluniau amgen.