Mae’r Unol Daleithiau wedi ymddiheuro am ladd 62 o filwyr Syria yn ystod cyrch awyr.

Yn ôl adroddiadau, cafodd y 62 eu lladd yn ystod cyrch ar safle milwrol.

Mae cyfarfod brys o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig wedi’i drefnu ar gais Rwsia i drafod y sefyllfa.

Daeth y cyrch i ben pan roddodd Rwsia wybod i’r Unol Daleithiau bod milwyr Syria ar y safle.

Mae llysgennad yr Unol Daleithiau, fodd bynnag, wedi cyhuddo Rwsia o “stynt” drwy alw am gyfarfod brys.