Mae dyn 32 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed difrifol drwy yrru’n beryglus yn dilyn gwrthdrawiad ddydd Iau.

Mae dyn 61 oed mewn cyflwr difrifol yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng fan Vivaro a char Peugeot 206 ar yr A465 yn Y Fenni.

Mae anafiadau’r dyn yn golygu bod ei fywyd mewn perygl.