Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi awgrymu y gallai aelodau’r blaid ethol ei chabinet cysgodol yn y dyfodol.

Mae gwrthwynebwyr Corbyn o fewn y blaid wedi cefnogi galwadau i roi’r hawl i aelodau seneddol bleidleisio i ethol aelodau’r cabinet cysgodol mewn ymgais i adennill ychydig o rym oddi ar yr arweinydd.

Ond mae Corbyn wedi mynd gam ymhellach drwy awgrymu y gallai aelodau’r blaid hefyd gael pleidlais.

Mae disgwyl i Corbyn guro Owen Smith yn y ras am arweinyddiaeth y blaid ddydd Sadwrn nesaf, ar ôl i Aelod Seneddol Pontypridd ei herio.

Cafodd y broses o roi pleidlais i aelodau seneddol i ddewis y cabinet cysgodol ei diddymu gan Ed Miliband yn 2011.

Yn ôl papur newydd yr Observer, mae Corbyn yn awyddus i draean o swyddi’r cabinet cysgodol gael eu hethol gan aelodau seneddol, traean gan yr arweinydd a thraean gan aelodau’r blaid.