Iwan Rheon, 'Ramsay Bolton' yn Game of Thrones
Gallai’r rhaglen boblogaidd ‘Game Of Thrones’ greu hanes yn y gwobrau Emmy nos Sul pe bai’n ennill tair gwobr.
Enillodd y rhaglen 12 o wobrau’r llynedd, ac mae angen 15 arni er mwyn bod y rhaglen naratif fwyaf llwyddiannus erioed a churo rhaglen Frasier, sydd wedi ennill 37 gwobr Emmy.
Mae’r gyfres, sy’n seiliedig ar nofelau George RR Martin eisoes wedi ennill naw Emmy Creadigol eleni ac fe fydd yn mynd ben-ben â ‘Downton Abbey’ ar gyfer y Gyfres Ddrama Orau.
Mae Idris Elba, Benedict Cumberbatch a Tom Hiddleston i gyd wedi’u henwebu yng nghategori’r Actor Gorau mewn cyfres gyfyngedig neu ffilm, a James Corden wedi’i enwebu ar gyfer ei raglen sgwrsio ‘Late, Late Show’.
Mae Hiddleston wedi’i enwebu ar gyfer y gyfres ‘The Night Manager’ (BBC), tra bod Hugh Laurie ac Olivia Coleman wedi’u henwebu ar gyfer gwobrau actorion cynorthwyol.
Ymhlith yr actorion o ‘Game of Thrones’ sydd wedi’u henwebu mae Kit Harington, Peter Dinklage, Maisie Williams, Lena Headey ac Emilia Clarke.
Mae Matthew Rhys hefyd wedi’i enwebu ar gyfer yr Actor Gorau (The Americans), tra bod y Fonesig Maggie Smith wedi’i henwebu ar gyfer yr Actores Gynorthwyol Orau (Downton Abbey).