Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i ddynes 49 oed gael ei lladd pan darodd hi gar ar ymyl y ffordd ar ôl i’w pharasiwt fethu ag agor yn Swydd Durham.

Dywedodd llygad-dystion ei bod hi wedi cwympo i’r llawr yn Shotton Colliery am 3.45pm ar ôl “troelli” yn yr awyr.

Mae’r heddlu, y Gweithgor Iechyd a Diogelwch a Chymdeithas Parasiwt Prydain yn ymchwilio i’w marwolaeth.

Dywedodd yr heddlu fod y ddynes yn brofiadol wrth ddefnyddio parasiwt dramor.

Mae’r crwner wedi cael gwybod, ac mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal.