Gwylnos yn dilyn ymosodiad blaenorol ym Mharis
Mae dynes 29 oed o Baris wedi cael ei chyhuddo o gynllwynio i ymosod yn frawychol ar eglwys gadeiriol Notre Dame.

Mae’r awdurdodau’n credu ei bod hi’n rhan o rwydwaith o fenywod sy’n gysylltiedig â’r Wladwriaeth Islamaidd, ac mae hi’n un o bump o fenywod sy’n cael eu hamau o drefnu’r cynllwyn a gafodd ei ddarganfod gan yr heddlu.

Daeth yr heddlu o hyd i gar llawn blychau nwy ddydd Sul diwethaf cyn arestio tair dynes ac un dyn a darganfod fod ganddyn nhw gysylltiadau â dau ymosodiad arall.

Cafodd un ohonyn nhw ei ryddhau, ond daeth yr heddlu o hyd i’w holion bysedd hi y tu fewn i’r car.

Daeth i’r amlwg fod yr heddlu’n gwybod amdani a’i bod hi’n cael ei hamau o drefnu i fynd i Syria.

Cafodd hi ei chyhuddo o gynllwynio a cheisio llofruddio mewn perthynas â rhwydwaith o frawychwyr.

Mae Ffrainc mewn cyfnod o argyfwng yn dilyn cyfres o ymosodiadau eleni, gan gynnwys ymosodiad yn Nice ar Ddiwrnod y Bastille.