Amina Al-Jeffery (Llun: PA)
Heddiw yw’r diwrnod olaf i ddyn ryddhau ei ferch a’i dychwelyd hi i Gymru ar ôl i adroddiadau awgrymu ei fod e wedi ei chaethiwo hi am gusanu dyn.

Cafodd Amina Al-Jeffery, 21 o Abertawe, ei chludo i Jeddah yn 2012 gan ei thad Mohammed er mwyn “achub ei bywyd”.

Yn yr Uchel Lys, roedd Mohammed Al Jeffery wedi gwadu iddo ei chaethiwo.

Ond fe ddywedodd y barnwr ym mis Awst fod rhaid iddi gael dod adref, gan gyfaddef nad oedd llawer y gallai’r llys ei wneud er mwyn sicrhau bod hynny’n digwydd.

Serch hynny, awgrymodd y gallai’r tad wynebu dirmyg llys pe bai’n anwybyddu’r gorchymyn.

Mae Aelod Seneddol Gorllewin Abertawe, Geraint Davies wedi galw ar Ysgrifennydd Tramor San Steffan, Boris Johnson i sicrhau bod Amina yn cael dychwelyd i’r ddinas.