Mae dros 100 o bobol wedi cael eu lladd mewn cyrchoedd awyr yn Syria er gwaethaf cadoediad sydd wedi cael ei drefnu ac sy’n dod i rym ddydd Llun.

Cafodd hyd at 60 o bobol eu lladd mewn marchnad yn Idlib, tra bod o leiaf 45 o bobol wedi’u lladd yn Aleppo.

Mae disgwyl i’r cadoediad bara 10 diwrnod cyn i gyrchoedd awyr gael eu cynnal yn erbyn jihadwyr.

Mae Twrci a’r Undeb Ewropeaidd wedi croesawu’r cytundeb, ond maen nhw’n rhybuddio fod rhaid gweithredu ymhellach er mwyn datrys y sefyllfa.

Mae Twrci’n galw am gymorth dyngarol tra bo’r Undeb Ewropeaidd yn dweud bod rhaid cael “trawsnewidiad gwleidyddol”.

Yn Namascus, mae llywodraeth y wlad wedi cymeradwyo’r cadoediad, yn ôl adroddiadau’r wasg leol.

Ond dydy hi ddim yn glir eto sut fydd Iran, un o gynghreiriaid Bashar Assad, arlywydd Syria, yn ymateb.

Mae’r gwrthdaro yn Syria wedi para bum mlynedd hyd yn hyn, ac mae dros 250,000 o bobol wedi cael eu lladd.