Mae pennaeth cwmni archfarchnad Lidl ym Mhrydain wedi rhoi’r gorau i’w swydd.

Yr oedd Ronny Gottschlich, pennaeth Prydain o’r cwmni Almaenaidd, wedi bod yn gyfrifol am lwyddiant sydyn yr archfarchnad ar hyd a lled Cymru a Phrydain.

Mae Cwmni Lidl bellach wedi llwyddo i hawlio 10% o’r farchnad siopau mawr ym Mhrydain, gan ddyblu eu cyfran o’r farchnad ers 2012.

Fe fydd Christian Hartnagel yn cymryd ei le yn Brif Weithredwr y cwmni ym Mhrydain.