Fe fydd rali yn cael ei chynnal yn Abertawe ddydd Sadwrn nesaf, Medi 17, gan elusennau amlwg sy’n galw ar wleidyddion i wneud mwy dros achos ffoaduriaid, wrth i’r Cenhedloedd Unedig drafod y pwnc.
Fe fydd Rali Sefyll fel Un yn mynd ati i ddangos cefnogaeth i ffoaduriaid ac i ddathlu eu cyfraniad i Gymru.
Ymhlith yr elusennau sy’n trefnu’r digwyddiad mae mudiad Oxfam, Achub y Plant, Cymorth Cristnogol a Hope Not Hate.
Cynnig noddfa
Mae gwefan y rali ar Facebook yn galw ar Lywodraethau Cymru a Phrydain “i wneud mwy i groesawu a chynnig noddfa i ffoaduriaid yma, a gweithio gyda llywodraethau eraill i ddod o hyd i ateb gwleidyddol hirdymor i’r argyfwng ffoaduriaid”.
Mae golwg360 ar ddeall fod ymdrechion i drefnu rali debyg yng Nghaernarfon ar yr un diwrnod i drefnu digwyddiad i godi ymwybyddiaeth am achos ffoaduriaid.
Mae’r digwyddiadau hyn yn cyd-fynd gydag uwch gynhadledd gan y Cenhedloedd Unedig ar y dydd Llun canlynol, a fydd yn trafod sut i daclo’r broblem ffoaduriaid ar y cyd ac mewn modd dyngarol.