Cafodd cynllun Llywodraeth Prydain i wario £50 miliwn dros bum mlynedd ar greu mwy o unedau cadéts milwrol mewn ysgolion, ei feirniadu mewn cyfarfod i hybu heddwch yng Nghaerfyrddin neithiwr.

Clywodd cyfarfod a drefnwyd gan Gymdeithas Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin y dylid gwario’r arian ar godi ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o’r angen i hyrwyddo heddwch.

Mae’r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor yn un sy’n credu fod angen defnyddio’r arian i hyrwyddo heddychiaeth.  “Byddai gwario’r miliynau o bunnau ar hyrwyddo diwylliant heddwch yn helpu magu dinasyddion creadigol a heddychlon ar gyfer y dyfodol,” meddai.

Cafodd cynnig ei dderbyn yn unfrydol i alw ar y llywodraeth i ystyried ariannu’r cynllun hwn fel ‘gwastraff peryglus ac anfoesol o arian cyhoeddus’.