Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) wedi dweud wrth eu haelodau i wrthwynebu ‘bwriad’ Cyngor Gwynedd a Môn i ddefnyddio asiantaethau preifat i ddod o hyd i athrawon cyflenwi i’w hysgolion.
Fe ddywedodd Cyngor Môn nad oes “trefniant sirol gydag asiantaeth” ganddyn nhw ar hyn o bryd, ac mae Cyngor Gwynedd yn y broses o ystyried defnyddio asiantaethau o’r fath.
Yn ôl UCAC mae defnyddio asiantaethau i ganfod athrawon cyflenwi “tanseilio tâl ac amodau gwaith statudol athrawon”, gan fod athrawon asiantaeth yn cael cyflog “llawer is” nag athrawon eraill.
Yn nhystiolaeth UCAC i Swyddfa Archwilio Cymru yn 2013, mae un athro yn dweud yn 2011 iddo gael ei dalu rhwng £65.70 a £90 y diwrnod gan asiantaethau o gymharu â graddfa gyflog isaf athrawon yng Nghymru o dros £114 y dydd (2015).
Yn ôl UCAC fe fydd safonau ysgolion ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu taro, gan nad yw’r asiantaethau yn “llwyddiannus” yn darparu athrawon i’r sector hwnnw.
Mae hefyd yn effeithio mwy ar athrawon sydd newydd gymhwyso, meddai’r undeb, gan mai nhw yw’r rhai mwyaf tebygol o gael gwaith dros dro drwy asiantaethau.
Arwain at drafferthion ariannol i athrawon
“Os yw athrawon yn cael eu cyflogi drwy’r awdurdod lleol neu athrawon, maen nhw’n cael amodau gwaith safonol, statudol, ond does dim rhaid i’r asiantaethau dalu’r lefel yno o dâl na chynnig yr amodau gwaith,” meddai Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC.
“Mae’r tâl maen nhw’n ei gynnig yn wael iawn, iawn ac yn gallu arwain at drafferthion ariannol i athrawon, ac yn gyffredinol maen nhw’n cael eu trin yn wael iawn.”
Mae UCAC yn dweud bod rhwng 40 a 50 o asiantaethau yng Nghymru erbyn hyn, ac maen nhw i gyd yn “cystadlu yn erbyn ei gilydd” er mwyn cynnig y pris rhataf i ysgolion.
“Weithiau mae athro wedi cofrestru gyda mwy nag un asiantaeth ac mae ysgol yn dod i gytundeb gydag un asiantaeth ynglŷn â faint maen nhw’n mynd i dalu am yr athro, ac mae asiantaeth arall yn dweud ‘fe allwn ni gynnig yr un athro i chi am lai’,” meddai Rebecca Williams.
“Mewn ffordd, mae’n troi’r peth i mewn i fasnach, lle dylai ysgolion ac addysg ddim fod yn fasnach o’r fath,” ychwanegodd Rebecca Williams.
“Y gair amdano fe yw preifateiddio. Mae e wedi mynd fesul awdurdod, dechreuodd e yn y siroedd yna sy’n ffinio gyda Lloegr, a falle yn y de-ddwyrain.
“Doedd dim lot o asiantaethau yn y gogledd nac yn y gorllewin tan yn gymharol ddiweddar ond maen nhw wedi mynd i bob man nawr.”
Ymateb y cynghorau
“Mae’r defnydd o asiantaethau athrawon yn weddol gyffredin mewn siroedd ledled Cymru erbyn hyn,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd.
“Gyda hynny, mae’r awdurdod addysg ar hyn o bryd yn ystyried os y byddai cyflwyno model o’r math yma yn addas i anghenion Gwynedd.
“Does dim penderfyniad wedi ei wneud am y defnydd o asiantaeth athrawon. Fel mae awdurdod addysg Gwynedd wedi ei esbonio wrth undebau llafur, mae ystyriaeth benodol yn cael ei roi i’r pwyntiau maen nhw wedi ei godi, ac mae rhagor o waith ymchwil yn digwydd cyn y bydd yr awdurdod yn dod i unrhyw benderfyniad ar y ffordd ymlaen.”
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn wrth golwg360: “Mae’r defnydd o asiantaethau cyflenwi athrawon yn fater i ysgolion, ond nid oes trefniant sirol ganddom gydag asiantaeth o’r fath.”
A dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru: “Dyletswydd penaethiaid a chyrff llywodraethu unigol yw penderfynu ar y ffordd orau o reoli eu gofynion staffio o fewn ysgolion ac mae hynny’n cynnwys gwneud y trefniadau priodol i sicrhau athrawon cyflenwi dros dro.”