Jeremy Corbyn
Drannoeth y ddadl deledu fawr rhwng Owen Smith a Jeremy Corbyn am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, Meic Birtwistle sy’n egluro pam ei fod yn cefnogi Jeremy Corbyn…
Noson hyfryd ym mis Awst ar lan y môr yn Abertawe ac mae 1,200 o bobol mewn canolfan hamdden i glywed gwleidydd yn areithio. Does dim sedd wag yn y neuadd – sefyllfa anhygoel! Ar ddiwedd y digwyddiad , mae’n rhaid i ni drefnu ffordd saff i’r siaradwr adael yr adeilad oherwydd gor-frwdfrydedd y dorf i siarad ag e a siglo ei law! Trwy ddrws ochor ag e ac i mewn i gar sy’n aros amdano fe…. Yn gynharach, ym Merthyr ,mae’r un dyn yn ymddangos ar falconi hen Neuadd y Dre Merthyr (fel Keir Hardie AS, Arweinydd cyntaf y Blaid Lafur)…mae cannoedd o bobol yn mynd yn wallgof gan weiddi a chymeradwyo a chwifio fflagiau cochion. Mae cefnogwyr yn ciwio i gael ei lofnod . Mae criw o ddynion tân o swydd Essex hyd yn oed wedi cymryd cwpwl o ddiwrnodau bant i ddod yr holl ffordd i Gymru i glywed eu harwr. Maen nhw’n cael eu diolch trwy gael y job o ddala’r faner enfawr ddwyieithog gyda llun yr arweinydd arni: ‘MAE CYMRU’N CEFNOGI JEREMY FEL ARWEINYDD Y BLAID LAFUR’ … Ie wrth gwrs, Jeremy Corbyn sy’n annerch….lle dechreuodd chwyldro Merthyr 1831… ond mae fel gwylio seren bop!
Fel swyddog y wasg mae hyn yn job bleserus er yn waith caled. Mae pawb eisiau gair gyda’r boi…. BBC, ITV, SKY papure lleol, grwpiau fideo cymunedol, a newyddiadurwr Almaeneg o’r Swistir! Hyd yn oed mwy nac yn ystod ei ymgyrch flaenorol flwyddyn yn ôl.
Y tro hyn roedd hystings Caerdydd rhwng y ddau ymgeisydd yn brofiad newydd…teimlo fel gornest arlywyddol – neu dyna fel mae’r darlledwyr am ei phortreadu hi.
Y blaid fwyaf yn Ewrop
Fel person sydd wedi trefnu cyfarfodydd politicaidd di-ri mae rhywun yn cenfigennu a syfrdanu a gorfoleddu ar y niferoedd. Mae pobol am drafod gwleidyddiaeth. Haleliwia mae democratiaeth yn fyw ac yn iach! Ac maen nhw’n ymaelodi…gan wneud y Blaid Lafur y blaid fwyaf yn Ewrop!
Ond mae’r phenomenom yn llawer mwy na’r dyn ei hun….brwydr yw hi rhwng yr aelodaeth a’r aelodau seneddol…pwy sy’n arwain a phwy sy’n dilyn? Ac nid yw hyn yn rhywbeth sy’n ymwneud â gwleidyddiaeth Brydeinig yn unig. Yn ystod Gŵyl y Gelli ymddangosodd Yanis Varoufakis o blaid boblogaidd Syriza – y gwleidydd asgell chwith Groegaidd – o flaen cynulleidfa sylweddol….1,700 ohonyn nhw. Mae newid ar y gorwel.
Ie’n wir, ar draws Ewrop yng Ngwlad Groeg , Sbaen yn ogystal â Phrydain mae syniadau asgell chwith yn ôl ar yr agenda. Nid yw Sosialaeth yn air brwnt neu amherthnasol bellach. Ac mae Owen Smith yn gorfod dilyn y llif.
Yn wir, mae hyd yn oed y bobol sydd am wrthwynebu Jeremy yn cael eu gorfodi i wneud hyn ar delerau Jeremy. Mae’r holl drafodaeth wedi symud i’r chwith. Ar ôl blynyddoedd Thatcher ac wedyn Llafur Newydd mae tra arglwyddiaeth syniadau economaidd neo- ryddfrydol yn cael eu herio go-iawn.
Nawr mae materion fel ymladd polisïau o lymder, adeiladu tai cyngor, ail- genedlaetholi’r rheilffyrdd a’r Gwasanaeth Iechyd, gwasanaeth addysg sy’n rhad ac yn ddim, ystyried cymryd y gwasanaeth bysiau o dan reolaeth y wlad, polisi tramor sy’n blaenoriaethu trafod o flaen gwrthdaro…. mae’r rhain yn swnio fel synnwyr cyffredin eto. Polisïau a strategaethau oedd llywodraethau o bob lliw wedi arfer arddel – fel cenedlaetholi – nawr yn ôl mewn ffasiwn. Ac o ran datganoli, Jeremy sydd wedi cydnabod a chanmol y broses o ddatganoli yng Nghymru, gan foli llywodraethau Bae Caerdydd – wedi ‘u harwain gan Lafur – am y polisi o ‘Ddŵr Claer Coch’ a’u camau radicalaidd nhw mor belled.
Ac felly dyma’r prif reswm rwy’n cefnogi Jeremy… mae ei ymgyrch wedi trawsffurfio gwleidyddiaeth y wlad. Mae diwygiad ar y gweill!
Meic Birtwistle yw Swyddog y Wasg Cymreig yr ymgyrch Jeremy Dros Lafur.
Bydd golwg360 yn cyhoeddi blog gan Peter Hain yn egluro pam mai Owen Smith yw’r dyn i arwain y Blaid Lafur.