Pontio
Bydd cyfle i bobol â dementia wylio ffilm newydd Bridget Jones yn sinema Pontio, mewn dangosiad arbennig i bobol sy’n dioddef o’r clefyd.

Mae’r dangosiad ‘dementia gyfeillgar’ yn golygu na fydd hysbysebion cyn y ffilm, bydd goleuadau meddalach a lefel y sain yn is.

Bydd hefyd staff yno sydd wedi cael eu hyfforddi ynghylch y clefyd, stondin Cymdeithas Alzheimer’s, mwy o arwyddion y tu mewn a thu allan i’r adeilad a rhyddid i fynd a dod yn ystod y ffilm.

Mae mwy o sinemâu ledled Prydain yn cynnig dangosiadau ffilm dementia gyfeillgar, gyda Chymdeithas Alzheimer’s yn dweud bod y sinema yn gallu bod yn ffordd dda o ail-gysylltu rhywun â’i atgofion.

“Gwella mynediad” i bobol

Bydd trydedd ffilm yn y gyfres Bridget Jones, hanes y ferch ffuglennol a aeth, mae’n debyg i Brifysgol Bangor, yn dechrau yn sinema Pontio o 16 Medi hyd at ddiwedd y mis.

Bydd y dangosiad dementia gyfeillgar ar ddydd Mercher 21 Medi am ddau’r prynhawn, a dau ddangosiad arall gydag isdeitlau dros gyfnod y ffilm yn y sinema.

“Rydym yn awyddus iawn i fod yn ganolfan sy’n agored i gymaint o bobl â phosib, ac mae cynnig dangosiadau dementia gyfeillgar a dangosiadau gydag isdeitlau yn rhan o’n hymroddiad i wella mynediad,” meddai Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio.

Mae modd cael tocyn i’r sinema drwy ffonio Swyddfa Docynnau Pontio ar 01248 38 28 28 neu archebu ar-lein.

Mae tocyn oedolyn yn £7 a rhai i bobol dros 60 oed, myfyrwyr a phlant yn £5 yr un.