Anjem Choudary Llun: PA
Mae’r clerigwr eithafol, Anjem Choudary, wedi cael ei garcharu am bum mlynedd a hanner am annog pobl i gefnogi’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).
Roedd y tad i bump yn ffigwr blaenllaw yn y grŵp eithafol a gafodd ei wahardd, al-Muhajiroun, ac mae ei ddilynwyr wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau brawychol gan gynnwys llofruddiaeth y milwr Lee Rigby.
Roedd Anjem Choudary, 49, yn annog cefnogaeth i’r grŵp brawychol mewn cyfres o sgyrsiau a gafodd eu postio ar YouTube yn 2014.
Cafodd ei garcharu heddiw ynghyd â Mohammed Mizanur Rahman, 33, o Whitechapel, dwyrain Llundain a gafodd ei garcharu am bum mlynedd a hanner hefyd.
‘Dirmyg’
Fe wnaeth cefnogwyr y ddau yn yr oriel gyhoeddus yn llys yr Old Bailey waeddi “Allahu Akbar” wrth i Anjem Choudary gael ei hebrwng i ffwrdd.
Bydd yn treulio ei amser yn y carchar mewn cell ar ei ben ei hun er mwyn ei atal rhag radicaleiddio carcharorion eraill.
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y barnwr Mr Ustus Holroyde bod y dynion wedi dangos “dirmyg” tuag at werthoedd democratiaeth y DU.
Meddai Sue Hemming o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd y ddau ddyn yn gwbl ymwybodol bod Daesh (IS) yn grŵp brawychol gwaharddedig oedd yn gyfrifol am weithgareddau creulon a bod yr hyn yr oedden nhw eu hunain yn ei wneud yn anghyfreithlon.
“Bydd y rhai sy’n gwahodd pobl eraill i gefnogi sefydliadau o’r fath yn cael eu herlyn ac yn cael eu carcharu am eu troseddau.”