Mae pryder am ddyfodol ffatri Ford yn ne Cymru ar ôl i’r cwmni ceir ddweud y byddai’n haneru cynhyrchiant yno.
Dywedodd undeb Unite Cymru bod y newydd yn rhoi’r ffatri mewn sefyllfa “beryglus iawn.”
Y llynedd, fe wnaeth Ford fuddsoddi £181 miliwn yn ei ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru, er mwyn cynhyrchu peiriannau petrol newydd o’r enw Dragon.
Roedd rhagolygon cynnar yn darogan y byddai’r ffatri yn cynhyrchu 250,000 o beiriannau Dragon y flwyddyn ond mae’r ffigwr hwnnw bellach wedi gostwng i 125,000.
Dywedodd Ford fod y penderfyniad wedi ei wneud o ganlyniad i newidiadau a ragwelir yn y galw yn ogystal â llwyddiant peiriannau eraill sy’n cael eu cynhyrchu yn Rwmania a’r Almaen.
Ffatri ‘mewn sefyllfa beryglus’
Meddai ysgrifennydd Unite Cymru, Andy Richards, eu bod yn credu bod hyn i gyd yn rhan o gynllun ailstrwythuro tymor hir Ford a bod dyfodol y ffatri ym Mhen-y-bont mewn perygl oherwydd hynny.
Ychwanegodd bod Unite Cymru wedi codi’r pryderon gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru a bod angen codi cwestiynau brys am ymrwymiad tymor hir y cwmni i’w weithrediadau yng Nghymru a’r DU.
Meddai Andy Richards: “Mae haneru cynhyrchiant y peiriant Dragon newydd, wedi’i gyfuno â gostyngiadau a gynlluniwyd ymlaen llaw mewn rhannau eraill o’r safle’n rhoi’r ffatri mewn sefyllfa beryglus iawn.
“Nid yw penderfyniadau strategol fel y rhain yn cael eu gwneud dros nos. Barn Unite yw bod hyn i gyd yn rhan o gynllun ailstrwythuro tymor hir ar draws safleoedd Ford drwy’r byd ble fydd ei weithrediadau ym Mhen-y-bont yn cael eu datgymalu’n araf.”
‘Cwestiynau brys’
Ychwanegodd Andy Richards : “Mae Unite Cymru wedi bod yn codi pryderon ynglŷn â hyn gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru am nifer o flynyddoedd ac maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn wrth geisio sicrhau dyfodol tymor hir Ford ym Mhen-y-bont. Yn wir, fe wnaethant gefnogi cynhyrchu peiriant Dragon gyda phecyn cymorth ariannol sylweddol.
“Mae’r penderfyniad heddiw wedi cael ei wneud gan fwrdd Ford yn Detroit a dyna ble mae’n rhaid i gwestiynau brys gael eu codi am ymrwymiad tymor hir y cwmni i’w weithrediadau yn y DU a’i weithlu ffyddlon a medrus yma.”
Agorwyd ffatri peiriannau Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 1980, ac mae wedi derbyn gwerth £1.8 biliwn o fuddsoddiad ers hynny.
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb Llywodraeth Cymru.