Mae dyn 23 oed wedi pledio’n ddieuog i’r cyhuddiad o lofruddio merch yn ei harddegau.

Mae James Morton wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Nottingham heddiw, wedi’i gyhuddo o lofruddio Hannah Pearson, 16 oed, ym mis Gorffennaf.

Bu farw Hannah Pearson yn yr ysbyty, wedi i’r gwasanaethau brys gael eu galw i gyfeiriad yn Newark yn ystod oriau mân Gorffennaf 24.

Mae James Morton wedi’i gadw yn y ddalfa gan y Barnwr Stuart Rafferty QC, ac mae disgwyl iddo sefyll ei brawf ym mis Ionawr.